Tudalen:Cofiant Dafydd Rolant Pennal.pdf/79

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

ychwanegai yr un gorchymyn drachefn a thrachefn uwch ei ben, gydag ychwaneg o dra awdurdod y naill dro ar ol y llall, 'bwyta fo, Arthur—bwyta fo, Arthur, pe bae ti'n i chwydu o i fyny again." "A hyn," meddai, "fu yn achos i drwyn Arthur Evan fyn'd yn gam."

Arferai a bod yn llym a llawdrwm ar gybyddion. Credai nad oes yr un pechod yn gwreiddio yn ddyfnach yn natur dyn fel y mae yn heneiddio na hwn. Dywedai iddo glywed am gybydd yn gafaelyd yn dýn yn ei arian pan ar drancedigaeth. Cadwai ei bwrs a'i arian gydag ef yn ei wely. Pan oedd yn ymyl marw, ymaflai y neb oedd yn ei wylio yn y pwrs rhag i'r arian golli. Cydiai y dyn yn dynach ynddo, a dywedai,— "Ar ol fy nydd i—Ar ol fy nydd i." "Mae rhai," meddai wrth areithio ar y Genhadaeth mewn Cyfarfod Misol, "yn magu cybyddion bach, yn dysgu y plant i gadw, cadw y cwbl. Yr wyf yn cofio un hen gybydd yn Mhennal acw, clywais ei gyfoedion yn dweyd, pan oedd yn blentyn, wedi iddo gael ceiniog, y byddai yn rhoddi pitch ar bocet ei wascot, rhag ei cholli. Daeth y cybydd pena yn y wlad, yr oedd wedi ei ddysgu i hyny er yn blentyn."

Mewn Cyfarfod Ysgolion yn y Dosbarth, yr oedd yn areithio ar y pwysigrwydd o addysgu plant yn briodol wrth eu cychwyn. "Y mae meddwl gan blentyn," meddai, "rhoddwch chware teg iddo. Fe all plant wneyd llawer iawn o bethau, a dweyd llawer iawn o bethau yn llawn o feddwl. Y mae meddwl gan blentyn." A throai gryn lawer o gwmpas yr ymadrodd, fod meddwl gan blentyn ond iddo gael ei dynu allan. "'Rwy'n cofio'n dda fy mod yn holi y plant unwaith am y creaduriaid direswm—y ddafad, a'r llew, ac felly yn y blaen. A'r plant yn ateb fod y Brenin Mawr wedi rhoddi y gwlan ar gefn y ddafad, a'r blew ar gefn y llew. Pa'm, meddwn inau, na buasai y Brenin Mawr wedi rhoddi y gwlan ar gefn y llew! Ebe rhyw blentyn o ganol y plant rhag y blaen, 'Fuasai ddim posib ei