Tudalen:Cofiant Dafydd Rolant Pennal.pdf/81

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

TEBYG I MR. GLADSTONE

Yr oedd llawer o debygrwydd yn ei wynebpryd i Mr. Gladstone, gymaint felly fel y tybiodd dieithriaid laweroedd o weithiau, ar yr olwg gyntaf, mai Mr. Gladstone oeddynt yn ei weled. Ac nid oedd ond rhyw flwyddyn a haner o wahaniaeth oedran rhyngddynt. Ymffrostia llawer yn y ffaith eu bod yr un oedran a Mr. Gladstone. Ond yr oedd bod yn debyg iddo o ran pryd a gwedd heblaw hyny, yn rhywbeth gwerth gwneuthur sylw o hono. Dywedwyd hyny am dano ef laweroedd o weithiau. Ac ar ei ymweliadau â Llandrindod, byddai yn ddywediad aml fod Mr. Gladstone wedi cyraedd yno. Yn ffurf y pen, ac ochr y wyneb, yr oedd y tebygrwydd rhyngddynt amlycaf. Yn lled ddiweddar ar ei oes yr oedd gweinidog dieithr o Sir Gaerfyrddin yn Mhennal yn pregethu ar noson waith, ac yn y prydnawn, ar ol tê, aeth D. Rolant i'r ty lle y lletyai, i edrych am dano. Yr oedd y ddau yn hollol ddieithr y naill i'r llall. Wedi ei gael wrtho ei hun yn y parlwr, ac yn mhen enyd ar ol cyfarch gwell y naill i'r llall, ebe y gwr dieithr, "Mi feddyliais yn siwr wrth eich gweled yn dyfod trwy y drws yna, mai Mr. Gladstone oedd yn dyfod i mewn." "O," atebai yntau, "Y mae llawer iawn wedi camgymeryd yr un fath a chwi. Ond y peth tebycaf ynof fi i Mr. Gladstone ydyw, na byddaf ddim yn ymfalchio dim pan glywaf rai fel chwi yo dywedyd hyny."

YMCHWYDD DYNION BYCHAIN

Cynhelid cyfarfod cyhoeddus yn Brynarfor Hall, Towyn, rywbryd yn agos i ddiwedd y flwyddyn 1883, i gyflwyno testimonial er anrhydeddu y Parch. Principal T. F. Roberts, Aberystwyth, yr hwn oedd y pryd hwnw newydd ei benodi yn Broffeswr ya Ngholeg Caerdydd. Yr oedd lliaws o ddieithriaid yn bresenol, ac ymhlith y rhai fu'n anerch y cyfarfod, siaradai David Rowland. Cyfodwyd rhan o'i anerchiad of i'r