Tudalen:Cofiant Dafydd Rolant Pennal.pdf/82

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Drysorfa am fis Mawrth, 1884, o dan y titl sydd uwchben y paragraph hwn. Wele yn canlyn yr hyn a ddyfynwyd i'r Drysorfa:—

"Mewn Cyfarfod Cyhoeddus a gynhaliwyd yn Nhowyn, i gyflwyno tyateb o werth i Mr. T. F. Roberts, B.A. (genedigol yn Aberdyfi, ac a fu yn efrydydd yn Ngholeg Aberystwyth, a Choleg St. Ioan, Rhydychain,) galwyd ar Mr. David Rowland, Pennal, blaenor adnabyddus gyda'r Methodistiaid, i anerch y cyfarfod. Yn mysg pethau eraill, dywedai, 'Da iawn genyf weled fod Mr. Roberts, yn dal y codiad. Nid yw dynion bach yn gallu dal ond ychydig iawn; dynion bach fydd yn meddwi. Dywedir y beirdd mawr, fel Eben Fardd ac eraill, y gallai dyn fod yn eu cymdeithas hwy am amser maith heb wybod eu bod yn feirdd. Rhywbeth yn debyg ydyw gyda dynion iach. Nid yw dyn iach yn meddwl am ei gorff, nac yn siarad dim am dano; ond am ddynion afiach, cwyno a son rhywbeth am eu cyrff a wnant hwy yn barhaus. Felly gyda dynion mawr a bach. Pan y mae rhyw fachgen wedi enill gwobr yn Eisteddfod Abergynolwyn—nage cyfarfod llenyddol, onidê? am wneyd penillion neu englynion, ac yn dyfod i lawr i Dowyn ddiwrnod y ffair, y mae o yn cerdded i fyny ac i lawr yr heol gan feddwl fod pawb yn dweyd wrth iddo basio, Dyna'r bachgen a enillodd haner coron yn Abergynolwyn!' Ond nid un felly ydyw Mr. Roberts,"

MEWN CYFARFOD MISOL YN MHENNAL.

Mewn Cyfarfod Misol a gynhelid yn Mhennal rai blynyddau yn ol, yr oeddis yn y boreu, y dydd cyntaf, wedi bod yn gwneuthur coffa am dri o flaenoriaid oedd wedi myn'd i'r nefoedd. Ac yn y prydnawn gofynid am brofiadau crefyddol blaenoriaid y lle, a David Rolant, fel y blaenor hynaf, a alwyd i adrodd yn gyntaf. "Wn i ddim yn iawn," meddai, "beth i'w ddweyd. Yr oeddwn yn meddwl yn y boreu, wrth eich