Tudalen:Cofiant Dafydd Rolant Pennal.pdf/83

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

clywed yn gwneyd coffhad am yr hen frodyr sydd wedi myn'd, os caf ina' y fraint i fod yn ffyddlon gyda'r gwaith i'r diwedd, y byddwch yn dweyd rhywbeth am dana' ina'. Ac yr oeddwn yn ceisio cysidro beth fydd genych i'w ddweyd am danaf." "Ie," meddai y Parch. Samuel Owen, yr hwn a'i holai, " yr oedd genych ryw guess hefyd." "Nac oedd gen i, o ran hyny; ond mi fuaswn yn leicio i bethau fod yn ffairiol." Mae y rhai oedd yn bresenol yn y cyfarfod hwnw yn cofio yn dda, fod y brodyr yn cael gwaith mawr i gadw eu hunain rhag syrthio oddiar eu heisteddleoedd, gan faint y chwerthin oedd yn y lle tra 'roedd y sylwadau hyn yn cael eu gwneuthur. Ond pan ddaeth yr amser i wneuthur coffhad am dano ef yn Nghyfarfod Misol Gorphwysfa, Rhagfyr, 1893, ac yn Nghymdeithasfa Aberdyfi, y mis blaenorol, yr oedd arogl esmwyth ar bob peth a ddywedid am dano.

YN RHODDI CYNGHOR I FLAENORIAID

Ya Nghyfarfod Misol Towyn, Hydref, 1891, galwyd arno yn ddirybudd i roddi cynghor i flaenoriaid newyddion a dderbynid ar y pryd. "Byddwch yn flaen-oriaid," meddai, "ac nid yn ol-oriaid. Byddai Mr. Humphreys yn arfer dweyd, fod rhai yn flaenoriaid na byddant byth yn blaenori, ac eraill yn blaenori er na fyddant ddim yn flaenoriaid. A byddai yn well ganddo ef y rhai fyddent yn blaenori, er nad oeddynt yn flaenoriaid, na'r blaenoriaid (wrth eu swydd) na fyddant byth yn blaenori. Peidiwch a myn'd i stewardio gormod yn rhy fuan hefyd. Mae rhai yn myn'd yn llon'd eu dillad, ac yn llon'd y sêt fawr rhag blaen wedi cael yr enw o swyddogion. Pobl arw am awdurdodi ydyw y stewardiaid yma. Pobl fach fydd yn awdurdodi. Yr oedd steward unwaith yn pasio heibio i ddynion oedd yn arloesi tir yn agos i'r ffordd yr elai heibio. Meddylai y gallai awdurdodi yn y fan hono—pwy ond y fo! Meddai wrth y dynion, "I ba beth yr ydych yn arloesi tir