Tudalen:Cofiant Dafydd Rolant Pennal.pdf/84

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

gwael fel hwn? Wnaiff dim byd dyfu y fan yma." "Mi wyddom ni," meddai y dynion wrtho, "am rywbeth wnaiff dyfu ymhob man." "Beth ydyw hwnw?" gofynai y steward. "Hadau stewardiaid!" oedd yr ateb. "Peidiwch chwi a myn'd i stewardio gormod yn rhy fuan."

Gwel pawb ar unwaith yr addysg sydd yn y cynghor hwn. Bu yn traddodi cynghor i flaenoriaid trwy benodiad y Cyfarfod Misol, adeg arall, yn Ffestiniog. Yr oedd ganddo yr un gwirionedd i'w ddysgu yno, trwy hanesyn gwahanol, ond ni bu mor lwyddianus i anfon y gwirionedd adref y tro hwnw. Ond pan y galwyd arno yn sydyn i roddi cynghor i flaenoriaid yn Nghyfarfod Misol y Dyffryn, flynyddau yn faenorol, gwnaeth havoc o honi mewn munyd neu ddau y tro hwnw. Gwiria hyn y dywediad am dano, y siaradai yn fwy dylanwadol pan y byddai heb barotoi dim ar gyfer yr amgylchiad.