PENOD VII.
YN RHODDI I FYNY EI FASNACH
CYNWYSTAD.—Dychwelyd yn ol i'r ty y ganwyd ef ynddo—Hanes preswylwyr Llwynteg—Cychwyn ar ymweliad—Cyfarfod â hen gyfaill—Byw yn retired am bedair blynedd ar ddeg—Desgrifiad o Llwynteg—Yn mwynhau bywyd—Byw ar yr adlodd—Darllen yn ffynhonell ei gysuron—Bachgen yn ceisio symud 'balk' fawydd—Llythyr o Rydychain—Treulio Sabboth yn Mhnnal—Tebyg i Gladstone ynte Gladstone yn debyg iddo ef—Yr un oed a'r Corff—Yn siarad am y ddwy 'Drysorfa'.
EDI bod yn ddiwyd gyda'r byd, a chasglu digon o
hono iddo ef a'i briod fyw, ymneillduodd oddiwrth
ei fasnach, Galanganaf yn y flwyddyn 1880, pan
oedd o fewn haner blwydd i ddeg a thriugain oed, a dychwelodd yn ol i'r ty, a elwir yn awr Llwynteg, i dreulio gweddill
ei oes ynddo. Fe gofir fod sylw wedi ei wneuthur yn nechreu
y Cofiant, mai yn y ty hwn y ganwyd ef, ac mai yma y treuliodd y pedair blynedd ar ddeg cyntaf o'i oes. Yr oedd y pryd
hwnw amryw deuluoedd yn byw yn y ty, o dan yr un tô.
Erbyn iddo ef ddychwelyd iddo yn niwedd ei oes, yr oedd y
ty, a'r ardd, a'r ffrynt, wedi myned trwy lawer o adgyweiriadau a gwelliantau, a'r lle, er's llawer o amser, wedi ei wneuthur yn breswylfod i un teulu yn unig.
Bu amryw bersonau adnabyddus yn byw yn y ty hwn. Yn niwedd y ganrif ddiweddaf a dechreu yr un bresenol, Dr. Pugh,