Tudalen:Cofiant Dafydd Rolant Pennal.pdf/86

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

yr erlidiwr, haner brawd i un o hen bregethwyr Methodistaidd cyntaf y wlad, sef y Parch. William Pugh, y Llechwedd, Abergynolwyn. Yma y diweddodd Mr. Richard Owen, gynt o'r Ceiswyn, a'i briod eu hoes. Am dymor ar eu hol, eu plant hefyd, sef Mr. Richard Owen, Masnachydd Coed, yn awr o Noulyn, Machynlleth, a'i ddwy chwaer a fuont yn byw yma. Ac ar ol iddynt hwy ymadael, yma y bu Mrs. Humphreys, gweddw y Parch. Richard Humphreys, yn treulio blynyddoedd olaf ei hoes. Oddiyma yr ymbriododd ei mherch, Miss Humphreys, a'r Parch. William Thomas, Dyffryn, wedi hyny o Bwllheli, yn awr o Lanrwst.

CYCHWYN AR YMWELIAD

Pan yr ymneillduodd oddiwrth ofalon y byd, ac y symudodd i fyw i Llwynteg, ar ddechreu y gauaf crybwylledig, teimlai mor hoew a llawen â'r aderyn bach wedi ei ollwng allan o'r cage. Ar ol bod yn ddiwyd trwy ddyddiau yr wythnos, yn symud y dodrefn, a'u gosod yn eu lle, a gorphen trefnu amgylchiadau y siop gyda'i olynydd (neb ond hwy eu dau yo gosod pris ar yr eiddo,) aeth ar ei union, ar brydnawn Sadwrn, cyn cysgu noswaith yn ei dy newydd, i ymweled â'r eglwysi yn Nosbarth Ffestiniog, trwy benodiad y Cyfarfod Misol, gan ganu yn llon wrth gychwyn i'w daith, eiriau y penill y bu yn eu canu lawer nos Sadwrn yn flaenorol:—

"Gadawn y byd ar ol,
Y byd y cawsom wae,
Y byd ag sydd bob dydd
Yn ceisio'n llwfrhau;
Ni welwn wlad uwch ser nef
Sydd fil o weithiau'n well nag ef."

Arhosai y nos Sadwrn hwnw, a thros y Sabboth, yn nhy y diweddar Mr. John Richard, Siop Isaf, Maentwrog. Yr oedd