Tudalen:Cofiant Dafydd Rolant Pennal.pdf/87

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

gymaint yn ei elfen gydag achos crefydd yn yr eglwysi, fel nad oedd y cyfnewidiadau a gymerasant le yn ei gartref yn myn'd ag ond ychydig iawn yn gymhariaethol o'i feddwl.

CYFARFOD A HEN GYFAILL

Ymhen ychydig wedi hyn, cyfarfyddodd ar Stryd Machynlleth â hen gyfaill iddo, o'r dref hono, o'r un grefft ag ef ei hun. Aeth yn ymgom rhwng y ddau am helyntion y byd a'i gyfnewidiadau. "Sut y fu hyn?" ebe ei hen gyfaill, "i chwi fyn'd gymaint o y mlaen I, i allu hyfforddio rhoddi y byd heibio, ac ymneillduo fel hyn oddiwrth bob gofalon?" "Gwell gwraig gefais I," oedd ateb Dafydd Rolant. "Gwell gwraig nag a gefais I Gwell gwraig na Jini?" ebe ei gyfaill. Naddo erioed; 'does yr un wraig well na Jini yn yr holl fyd!" A dyna lle y bu y ddau ar stryd Machynlleth, un yn canmol Jini, a'r llall yn canmol Mari,

YMWELIAD Y PARCH, GRIFFITH ELLIS, M.A.

Galwodd y Parch. G. Ellis, M.A., Bootle, yn Llwynteg, yn fuan wedi iddynt symud yno i fyw. Parhaodd undeb agos rhwng y gŵr parchedig a theulu Llwynteg, ar gyfrif eu cyfeillgarwch neillduol hwy â'i dad a'i fam, a'i nain ef. Gwnai yntau, yn ystod yr ymweliad hwn, y sylw wrth ŵr y ty fod Rhagluniaeth wedi ei ffafrio yn fawr iawn, trwy ei ddyrchafu ef a'i briod uwchlaw gofalon a phryder y byd, a gofynai iddo, "Sut yr ydych yn leicio byw mewn tawelwch a diofalwch, ac yn y fath hapusrwydd a hyn?" "O, yn reit dda," atebai, "fe fu'm i yn byw yn y fan yma o'r blaen am bedair blynedd ar ddeg, yn retired, heb wneyd dim byd at fy nghadw; nid yw fawr ddim byd i mi, o ran hyny; ond mae yn rhywbeth i Mari yma.'

DESGRIFIAD O LLWYNTEG

Saif Llwynteg ar gwr y pentref, allan o hono, ac yn agos hefyd. Wyneba y ty i'r Dê. Yn y gauaf a'r gwanwyn, tywyna