Tudalen:Cofiant Dafydd Rolant Pennal.pdf/9

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

RHAGYMADRODD

AMLYGWYD dymuniad, yn fuan ar ol marwolaeth Mr. David Rowland, am i Gofiant gael ei ysgrifenu iddo. A chwestiwn a ofynid yn fynych, o hyny hyd yn awr ydoedd, “Pa bryd y mae Cofiant Dafydd Rolant yn dyfod allan?," Yn awr dyma'r cwestiwn wedi ei ateb, ni bydd eisiau i neb ei ofyn mwy.

Ysgrifenwyd ychydig am y gwrthddrych o'r blaen, i'r Goleuad a'r Drysorfa, a'r Cylchgronau eraill, ond bydd yr hanes hwn, sydd yn llawer helaethach, yn fwy hylaw wedi ei gasglu ynghyd yn llyfr.

Cyflwynir i'r darllenydd, yn y tudalenau hyn, fywgraffiad gwr oedd yn adnabyddus iawn yn ei oes, gwladwr da, llawn o rinweddau goreu y natur ddynol, o synwyr cyffredin cryf, ffraethineb, naturioldeb, craffder, cymwynasgarwch, yn nghyda phob rhinwedd a chlod. Ysgrifenwyd hanes dynion hynod oeddynt yn fwy nag ef mewn un ffordd, ond anaml y cedwir mewn coffadwriaeth neb, yn ol ei amgylchiadau, a wnaeth fwy o ddaioni trwodd a thro.

Nid gwaith hawdd oedd ei osod allan y peth oedd, gan ei fod gymaint ar ei ben ei hun.

Yn Nghymdeithasfa y Bala, pan oedd y brodyr yn ymddiddan a'u gilydd am yr haint oedd wedi tori allan ar y pytatws,