Tudalen:Cofiant Dafydd Rolant Pennal.pdf/90

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

frawddeg ydoedd hyn,—"Tebyg iawn 'rydw i yn ei wel'd o i ryw fachgen yn ceisio symud balk ffawydd—y cwbl mae yn ei wneyd ydyw, ysgwyd tipyn ar un pen iddo." Yr oedd ef, modd bynag, yn ddarllenwr cyson, ac o hyny cafodd lawer o hyfrydwch a budd yn niwedd ei oes.

SABBOTH YN MHENNAL

Gan y Parch. T. C. Williams, Gwalchmai.

Mewn llythyr o Rydychain, yr hwn a ymddangosodd yn y Goleuad, Rhagfyr 1af, 1893, rhydd y Parch. T. Charles Williams, Gwalchmai, hanes dyddorol am Sabboth a dreuliodd yn Mhennal. Gan fod y darluniad a geir am Llwynteg, a'r teulu, mor gywir a phwrpasol, rhoddir ef i mewn yma yn llawn:—

"Chwith, a chwith iawn hefyd i mi oedd clywed am farwolaeth y patriarch o Bennal,—un o'r rhai galluocaf a mwyaf gwreiddiol o leygwyr y Cyfundeb. Unwaith erioed y daethum i i gyffyrddiad ag ef. Aethum i daith Pennal ryw Sabboth yn niwedd y flwyddyn 1892, o un pwrpas er mwyn ei weled ef a'i wraig. Yr oeddwn wedi fy nghyfarwyddo ganddo i dd'od yno o Fachynlleth nos Sadwrn; ond gan ei bod yn noson ystormus, nid aethum yn mhellach na Phenrhyn Dyfi hyd foreu Sul. Yr oedd hyny wedi rhoi mantais iddo i roi dangosiad teg o'r elfen chwareus oedd mor amlwg yn ei gymeriad. Ymddengys fod Mrs. Rowland yn fawr ei phryder am fy mod heb gyraedd, yn llwyr gredu fy mod wedi colli y ffordd yn y tywyllwch, neu fod rhyw ddinystr anaele wedi fy ngoddiweddyd. Gwyddai yntau hyny, ac aeth allan tua deg o'r gloch mor ddistaw ag y gallai, ac yna aeth o gylch y ty, ac i ddrws y ffrynt, gan guro yn dra awdurdodol. Diflanodd gofalon Mrs. Rowland ar unwaith, ac wedi taro rhywbeth yn frysiog ar y bwrdd, aeth i'r drws i groesawu y pregethwr, ond wedi myned