Tudalen:Cofiant Dafydd Rolant Pennal.pdf/97

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

y gwir, ei fod wedi gweled nifer mwy o dai yn cael eu tynu i lawr, ac yn myn'd yn furddynod, a dim pobl mwyach yn byw ynddynt.

Modd bynag, un o'r pethau a'i gwnelai ef yn aelod gwerthfawr mewn cymdeithas ydoedd, y byddai yn edrych bob amser ar y wedd oleu i bob peth. Canol haf fyddai hi gydag ef yn nghanol gauaf, a phan y byddai dywyllaf yn ngolwg pawb arall, dywedai ef fod y mil blynyddoedd yn ymyl. Yr oedd ynddo gymhwysder eithriadol i ymlid ymaith bob tuedd felancolaidd, a phrudd-der, a thristwch.

Bu yn golygu unwaith ar ei oes y buasai yn colli tipyn o arian (er na ddigwyddodd hyny ddim iddo), a chwynai rhywrai yn fawr iddo o'r herwydd. "O," meddai yntau, "'dydyw hyn yn ddim byd ond fel pe bai llwdwn dafad yn trigo ar y mynydd."

Un elfen amlwg yn nghymeriad Dafydd Rolant ydoedd, ei fod yn ŵr tangnefeddus iawn. "Ti a gedwi mewn tangnefedd heddychol, yr hwn sydd a'i feddylfryd arnat ti," oedd testyn y bregeth trwy yr hon y dygwyd ef at grefydd. Yr oedd ei feddylfryd yntau ar Dduw, ac fe'i cadwyd yn wastadol mewn tangnefedd heddychol. Pan yn sirioli y tân ar yr aelwyd, mynych y dywedai, "Un da iawa ydw i am wneyd i'r tân gyneu, ac mi fedraf ddiffodd tân hefyd." Ac felly y medrai. "Un o heddychol ffyddloniaid Israel" ydoedd.

Un medrus iawn ydoedd hefyd am ddyfod allan o anhawsderau, ac i roddi gwynt yn hwyliau ei gwch ei hun, pryd na fedrai eraill ddim hyd yn nod yru y cwch i'r dwfr. Er engraifft: Yr oedd unwaith, gyda brawd arall, ar ymweliad â'r eglwysi yn Nosbarth Corris. Ar y nosweithiau yr oeddynt yno digwyddai fod y Parch. Richard Owen, y Diwygiwr, yn pregethu yn Nolgellau, pryd yr oedd y gwr hwnw yn anterth ei nerth a'i boblogrwydd. Erbyn i'r ymwelwyr fyned i'r Cyfarfod Eglwysig yn Nghorris, yr oedd naill haner y bobl wedi.