Tudalen:Cofiant Dafydd Rolant Pennal.pdf/98

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

myned i Ddolgellau, lle yr oedd tyrfaoedd yn ymgasglu i'r cyfarfodydd diwygiadol. Ebe Dafydd Rolant, wrth ddechreu siarad yn y seiat y noson hono, "Mae gweled y capel yma mor wag yn dwyn i'm côf i hanes John Evans, New Inn. Pan oedd John yn fachgen yn yr ysgol byddai yn pregethu i'r meinciau gweigion. Ryw ddiwrnod, daeth ei feistr i'r ystafell tra 'roedd John ar ganol pregethu felly i'r meinciau, ac meddai y meistr, John, John, lle mae'r gwrandawyr?' 'I don't know, my dear Sir,' oedd yr ateb, 'ond iddynt hwy mae y golled." Er mor fychan oedd y cynulliad yn Nghorris y noson hono, rhoddodd y sylw hwn bawb yn y lle mewn tymer dda ar ddechreu y cyfarfod, fel yr aeth pob peth ymlaen yn ysgafn o hyny i'r diwedd.

Dro arall, yr oedd ef a'r Parch. William Jones, Penrhyndeudraeth, Liverpool yn awr, wedi bod yn ymweled a rhan arall o'r sir, ac yn Nghyfarfod Misol Talsarnau, rhoddent adroddiad o'u hymweliad. Pan gyfododd Dafydd Rolant i fyny i adrodd ei ran ef, dywedai, "Cawsom groesaw mawr iawn ymhob man lle buom; yr oedd pawb yn ein derbyn yn odds o siriol, ac yn dweyd wrthym am frysio yno wed'yn. Gallwn feddwl mai ni ein dau maent am gael i ymweled yn y manau lle buom, y tro nesaf."

Bu adeg arall, gydag un o'r gweinidogion, yn ymweled ag eglwysi Dosbarth Ffestiniog. Yn y Penrhyn y cynhelid y Cyfarfod Misol lle rhoddent adroddiad y tro hwnw. Yr oedd un o eglwysi Ffestiniog y flwyddyn hono, a'r blynyddoedd cynt, wedi llenwi y Sabbothau â gweinidogion o siroedd eraill, gan esgeuluso gweinidogion eu sir eu hunain yn ormodol. Yn ei adroddiad yn y Cyfarfod Misol, cymerodd Dafydd Rolant ei ddameg i gyraedd hyd adref yr eglwys oedd yn euog o'r trosedd, gan ymgadw hefyd rhag enwi yr eglwys. "Rydw i wedi bod yn cadw siop yn y wlad," meddai, "a gwelais trwy y blynyddoedd ryw sort o bobol y byddai raid iddynt gael myned i'r