Tudalen:Cofiant Daniel Owen.djvu/105

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

Ysgrifennai bennod ar gyfer bob mis i'r Drysorfa, heb fod ganddo ddim wrth gefn, Wedi ei chwblhau cyhoeddwyd hi yn llyfr 4/-,gan yr awdur, a gwerthwyd dwy fil o gopïau, sef yr holl argraffiad mewn chwe mis. Y mae yn amheus a gafodd dim ei ddarllen mor awchus â chyffredinol yng Nghymru a Hunangofiant Rhys Lewis. Parodd ei hymddangosiad yn fisol yn y Drysorfa gynnydd mawr yng ngwerthiant y cylchgrawn hwnnw, a'r fath oedd swyn a phoblogrwydd y ffug-chwedl, fel yr aeth y Drysorfa yn hysbys tu hwnt i ffiniau y Methodistiaid. A phan gyhoeddwyd Rhys Lewis yn llyfr, yn 1885, gellir dweud iddo gael ei ddarllen gan bawb o fewn Cymru a deimlant ddiddordeb yn llenyddiaeth eu gwlad. Gwerthodd y copyright i Feistri Hughes a'i Fab, Gwrecsam, a dygasant hwythau ailargraffiad, gyda nifer o ddarluniau allan. Y mae yr argraffiad hwnnw bellach wedi ei ddihysbyddu.

Oddeutu wyth mlynedd yn ôl ymddangosodd cyfieithiad Seisnig o Rhys Lewis. Nis gellir dweud fod hwn wedi bod yn llwyddiant. Nid oedd y cyfieithydd yn gyfarwydd ag ystyr fanwl yr hyn a ysgrifennai, ac o ganlyniad, llawer o gamgymeriadau digrifol a wnaed