Tudalen:Cofiant Daniel Owen.djvu/107

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

ymddangosodd ei weithiau ar y cyntaf. Y mae bron yn sicr nas gellid cael ganddo i ysgrifennu ond yn y modd hwn. Ysgrifennai ddogn mis yn ei fis, heb edrych dim tu hwnt i hynny. Ysgrifennai y Dreflan a Rhys Lewis ar ôl myned gartre, a mynych y byddai yn aros i fynnu hyd oriau y bore i gwblhau y bennod. Pan yn ysgrifennu Enoc Huws a Gwen Thomas ysgrifennai yn y masnachdy, yng nghanol ei oruchwylion, pryd y torrid ar ei heddwch yn barhaus. Pan elwid arno o'i ystafell gefn i weini ar gwsmeriaid, gadawai y M.S. ar y bwrdd, a dychwelai yn ôl i ail-ymaflyd yn ei waith. Ac weithiau canfyddai fod rhai o'i gyfeillion direidus wedi bod a llaw yn y gwaith.