Tudalen:Cofiant Daniel Owen.djvu/110

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

hwnnw yn cymryd ffurf arhosol, nis gellid disgwyl cael disgrifiad ohono; yr oedd dynion yn bwy yn rhy agos ato; yn rhan ohono. Nid oeddynt eto wedi cael digon o amser ac o brofiad i'w galluogi i ddisgrifio eu bywyd eu hunain. Yn wir, ni oddefai angerddoldeb eu teimlad crefyddol iddynt i wneud hynny. Erbyn i Daniel Owen ymddangos yr oedd canrif wedi myned heibio er y Diwygiad Methodistaidd yng Nghymru. Yr oedd y genhedlaeth gyntaf o grefyddwyr yn y rhannau hyn o Gymru wedi myned i orffwys. Yr oedd atgofion am yr hen bobl yn llenwi lliaws o feddyliau eu holynwyr pan yr oedd awdur Rhys Lewis yn fachgennyn. Yr oedd man preswylfod yr awdur yn fantais iddo hefyd. Yr oedd yn byw yn agos i Glawdd Offa, yn ymyl y terfynau lle mae bywyd Seisnig a Chymreig yn cydgyfarfod. Cymreig, yn ddiau, ydoedd haen isaf bywyd tref yr Wyddgrug pan oedd ef yn ieuanc, eto yr oedd yr ysbryd Cymreig yn cael ei fywhau a'i symbylu gan y dylanwadau Seisnig a lifant i'r lle drwy fasnach a'r gweithfeydd glo a mwynol. Tra na chafodd y rhanbarth hwn o Gymru ei orlifo gan y llanw Seisnig, megis Maesyfed a rhannau o Maldwyn, eto, daeth yr ysbryd â'r bywyd Cymreig i gyffyrddiad, os nad gwrthdrawiad â syniadau a