y rhai a ddarllenid gan liaws ein gwlad—yn tueddu i fod yn drymaidd, os nad clogyrnaidd, neu ynte yn rhy glasurol i gydio yn meddwl darllenwyr cyffredin. Yn y nofelau hyn, o'r tu arall, wele Gymraeg yn cael ei ysgrifennu mewn modd syml a hynod digwmpas. Pe gofynnid,—Beth yw nodwedd arbennig ei arddull? Buasem yn ateb—uniongyrchedd (directness.) Gellir, yn sicr, gymhwyso ato ef y dywediad " yr arddull yw y dyn;" yma gwelir cymeriad dirodres yr awdur yn llewyrchu drwy ei arddull. Ysgrifennai fel y byddai yn siarad, a phan mewn cywair lled dda, ac mewn cylch bychan, llefarai yn dra effeithiol. Yr hyn a hynodai ei siarad, yn ddiau, ydoedd priodoldeb; yr oedd yn siarad i'r pwynt; yr oedd ei ymadroddion "fel hoelion wedi eu sicrhau;" felly hefyd pan yn ysgrifennu. Yr oedd wedi ennill y feistrolaeth hon ar ysgrifennu Cymraeg drwy fod yn ffyddlon iddo ei hun, a thrwy ymarferiad lled gyson ag ysgrifennu a siarad er pan ydoedd yn llanc Ni phetrusai ddwyn i mewn hen eiriau Cymraeg cryfion—geiriau a blas Cymreig arnynt. (Pan ofynnwyd iddo gan gyfaill,—Pa le yr oedd i wedi dod o hyd i'r hen eiriau hyn? Atebai mai gan ei fam y clywodd hwy. Diau ei bod hithau wedi eu clywed yn ei chartref yn Nyffryn Clwyd,
Tudalen:Cofiant Daniel Owen.djvu/113
Gwedd