Tudalen:Cofiant Daniel Owen.djvu/116

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

sylwadaeth gyda y cywirdeb mwyaf. Treuliodd ei fywyd mewn cylch hynod gyfyng - ac eithrio'r ddwy flynedd a hanner y bu yn Athrofa y Bala - yn yr Wyddgrug y treuliodd ei holl fywyd. Sylwa George Eliot, yn un o'i gweithiau, mai mantais fawr i ddyn yw cael ei gau i mewn i gylch cyfyng yn dechrau ei fywyd, ei fod drwy hynny yn dod i adnabod y byd yn well, ac hefyd ' fod ei wybodaeth am y cylch bychan y dygir un i fynnu ynddo yn agoriad i'r oll o fywyd. Pa fodd bynnag am hynny, yr oedd y nofelydd yn un hynod o gartrefol, fel y dywedir mai rhan neilltuol o Lundain ydoedd byd Dr Johnson, felly, yn sicr, y gellir dweud mai yr Wyddgrug ydoedd byd Daniel Owen; y mae delw y dref bron ar bob tudalen a ysgrifennwyd ganddo yn y Dreflan a Rhys Lewis. Nid oedd ynddo nemor o awydd teithio; yn wir, nid oedd gan olygfeydd nemor o swyn iddo. Wrth ddarllen ei weithiau ni chyfarfyddwn braidd byth a disgrifiadau o brydferthwch natur; bron nad ymddengys yn ddall iddynt; plant dynion ydoedd ddiddorol iddo ef. Darllenai braidd yr oll o'r papurau Cymreig yng Ngogledd Cymru, a rhai o newyddiaduron Cymreig y Deheudir a'r Unol Daleithiau. Anfynych y gwelwyd neb