Tudalen:Cofiant Daniel Owen.djvu/118

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

hyn ysgrifennwyd ganddo - "y pethau a welodd dan haul," - a dyma un rheswm am y swyn sydd yn ei weithiau i liaws ein gwlad. Disgrifia gymeriadau tebyg i'r rhai yr ydym oll yn eu hadwaen. Cyfeiria y diweddar Barch. Roger Edwards at y nodwedd hon yn ei Ragymadrodd i'r Dreflan. Meddai:—

"Gwelir fod yr awdur yn sylwedydd craff ar y natur ddynol, ac ar gymdeithas grefyddol yn gyffredinol, fel, er nad oedd yn portreadu unrhyw bersonau neilltuol, fod ei ddisgrifiadau mor naturiol â phe buasai yn rhoddi hanes gwrthrychau byw oedd o flaen ei lygaid; yn wir, derbyniais fel golygydd y Drysorfa, lythyr difrifol, ym mha un y dywedai yr ysgrifenydd ei fod yn deall fod y cymeriadau a bortreedid yn y Dreflan wedi eu cymryd o'r plwyf yr oedd efe yn byw ynddo, ac felly, fod yr awdur 'yn ceisio pardduo un o'r llanerchau mwyaf moesol a chrefyddol ' yn ein gwlad, a'i waith o'r herwydd yn 'sothach enllibgar tra yr oedd y plwyf a nodid, a'r wlad o'i amgylch, yn hollol ddieithr i'n cyfaill. Wrth ddarllen y llythyr achwyngar hwn, nis gallaswn lai na meddwl am eiriau Solomon, - ' Megis mewn dwfr y mae wyneb yn ateb i wyneb, felly y mae calon dyn i