Tudalen:Cofiant Daniel Owen.djvu/119

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto
ddyn,' ac fel hyn rhaid bod y Dreflan yn darlunio egwyddorion a theimladau sydd yn gyffredin i ddynolryw mewn byd ac eglwys." Tra y mae y cymeriadau a ddisgrifir mor wirioneddol â phe buasent yn fywgraffiad, eto y maent yn enyn diddordeb mwy cyffredinol, o herwydd nad ydynt yn gyfyngedig i bersonau, lle, a'r amgylchiadau sydd yn arwahanol oddi wrth fywgraffiad.

Elfen arall a nodwn yw ei ysmaldod (humour). Nid oes a fynnom â deffinio beth yw humour Dadleua rhai bod yr elfen hon yn brin yn llenyddiaeth Cymru, ac mai nid yr un ystyr yn hollol a roddir i'r gair ysmaldod ag a roddir i'r gair Saesneg humour. Efallai fod rhywbeth yn hanes ein cenedl, yn wladol a chrefyddol, yn rhoddi cyfrif am hyn. Dichon hefyd nad yw yr iaith Gymraeg yr un mor gyfaddas i'r pwrpas hwn ag ydyw rhai ieithoedd eraill. Teimlir, pa fodd bynnag, fod yr elfen hon yn treiddio drwy ysgrifeniadau Daniel Owen, ac y mae yn elfen iachus ac adfywiol; nid oes yma chwerwedd gwawdlyd ar un llaw, tra hefyd y mae wedi ymgadw, ar y cyfan, oddi wrth ymadroddion di-chwaeth. Teimlir yr ysmaldod hwn, nid yn unig yn y cymeriadau digrifol, megis Wil Bryan, ond