Tudalen:Cofiant Daniel Owen.djvu/124

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

ydynt Wil Bryan a Thomas Bartley, er na ddylid anghofio Barbara Bartley.

Llawer o ddyfalu sydd wedi bod gyda golwg ar y gwreiddiol o "Wil Bryan." Y mae rhai wedi myned mor bell a nodi personau oedd yn cyfateb i'r disgrifiad. Y mae yn sicr, pa fodd bynnag, nad yw yr awdur wedi ceisio rhoddi portread o unrhyw un arbennig yn Wil Bryan cawsom ei dystiolaeth ef ei hun ar y pen hwn; ar yr un pryd, nis gellir dweud mai creadigaeth ei ddychymyg ef ei hun ydy w y carictor, yn hytrach, ffrwyth ei sylwadaeth a'i atgofion ydyw; yr oedd y cymeriad yn gynnyrch amgylchiadau neilltuol. Gwelir yn Wil Bryan wrthweithiad yn erbyn bywyd manwl a Phiwritanaidd, mewn un na allasai ymddiosg yn llwyr oddi wrth ddylanwadau crefyddol; ceid amryw, meddir, o'r type hwn yn y dref pan oedd yr awdur yn ieuanc. Dygwyd Wil Bryan i fyny mewn teulu ydoedd yn proffesu crefydd; yr oedd ei dad yn gwneud honiadau uchel yn gyhoeddus, eto nid oedd yna ddidwylledd crefyddol yng ngartre y bachgen cyflym ei gyraeddiadau; gwelodd anghysondeb rhwng proffes ei dad a'i ymddygiadau yn ei fasnach,; ac fel canlyniad tyfodd i fynnu, i raddau, yn