Tudalen:Cofiant Daniel Owen.djvu/125

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

wawdiwr o bethau cysegredig. Ceir yn ei gymeriad gyfuniad o wybodaeth am grefydd, ynghyd â hyfdra a dibristod wrth sôn am dani, ac eto, o dan y cwbl, yr oedd yna haen o onestrwydd yn ei gymeriad; yn wir, y gonestrwydd ' hwn, heb fod arweiniad priodol, a'i gwnaeth yn wawdiwr. Meddai Wil Bryan graffter a synnwyr i wahaniaethu, a daw yr ochr orau i'w natur i'r golwg yn ei barch gwirioneddol i'r fath gymeriadau ag Abel Hughes a Mari Lewis.

Y mae astudiaeth o gymeriad Wil Bryan yn awgrymu amryw o werai difrifol i'r darllenydd. Y mae yr hwn na wel ond yr elfen ddigrifol yn Wil Bryan, heb ganfod ond un ochr i'r cymeriad, a honno yr un fwyaf arwynebol Un peth, efallai, sydd yn taro y darllenydd, yn enwedig yn y rhannau mwyaf Cymreig o'n gwlad, yw cynefindra Wil Bryan â'r iaith Saesneg, fel eu gwelir yn y defnydd parhaus a wna o frawddegau Saesneg; nis gallasid gweled hyn ond mewn tref ar y terfynau rhwng Lloegr a Chymru; ac y mae Wil yn enghraifft o ddylanwad arwynebol bywyd Seisnig ar gymeriad Cymreig. Y mae yn amlwg fod gwybodaeth Wil Bryan o'r iaith Seisnig wedi bywiogi ei feddwl, a rhoddi iddo