Tudalen:Cofiant Daniel Owen.djvu/126

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

fath o hunanhyder nad allasid ei ddisgwyl mewn llanc o'r un safle yn y siroedd mwyaf Cymreig o'r Dywysogaeth. Credwn fod yr awdur yn dangos ei fedrusrwydd hefyd mewn dwyn cymeriad fel Wil Bryan i'w waith; y mae graddau o wit y cymeriad yn gysylltiedig â'r iaith. Diamau pe buasai y geiriau, ac yn enwedig y brawddegau Seisnig sydd yn britho ymddiddanion Wil Bryan yn cael eu gadael allan, y buasent yn colli llawer o'r awch a'r raciness sydd ynddynt.

Cofia llawer am ysgrifau y diweddar Mr. John Griffiths (Gohebydd Llundain), i'r Faner. Ni wnaeth un ysgrifenydd gymaint i ennill sylw ac ennyn diddordeb amaethwyr Cymru yng ngwaith y Senedd a'r Gohebydd; ac ni fuasai ei ysgrifau ef yn agos mor fyw oni bai am y pertrwydd gyda pha un y defnyddiau dermau Seisnig nad oedd cyfystyron dealladwy iddynt yn y Gymraeg.

Cymeriad arall sydd yn cystadlu mewn poblogrwydd â Wil Bryan ydyw Thomas Bartley, ac efallai na fethem wrth ddweud mai dyma gampwaith yr awdur. Y mae yna fwy o naturioldeb yn y disgrifiad nag yn Wil Bryan; dyma y portread perffeithiaf o weithiwr tlawd, anwybodus o Gymro Gwelir ymhob brawddeg