Tudalen:Cofiant Daniel Owen.djvu/127

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

gywirdeb a manylder sylwadaeth yr awdur; yr oedd wedi sylwi ar holl fywyd ac ysgogiadau Thomas a Barbara Bartley. Rheda elfen nwyfus a chwareus, wedi ei thyneru gan gydymdeimlad, drwy y disgrifiad; gwelwn yn Thomas Bartley fywyd syml yn troi o fewn cylch bychan, arferion cartrefol, llawenydd plentynnaidd, galar mud, ynghyd â synnwyr da yn, nghanol ei anwybodaeth, yn ogystal â charedigrwydd a lletygarwch Cymreig. Hynod mor gywir hefyd yw ei disgrifiad yr awdur o ddeffroad bywyd crefyddol mewn un o gyraeddiadau Thomas Bartley. Y mae yn amheus a ydoedd yn abl i olrhain datblygiad meddyliol cymeriadau fel Bob, - un ydoedd wedi ei daflu i amheuaeth yn neffroad cyntaf ei feddwl; ac yr ydym yn gorfod teimlo nad yw yr awdur wedi taflu nemor o oleuni ar ddatblygiad teimladau Wil Bryan tuag at grefydd. Cawn Bob yn marw yn ieuanc, a'r goleuni yn tywynnu ar ei feddwl yn niwl y glyn, tra y mae Wil Bryan yn aros yn ei unfan, cyn belled ag y gwelir yn Enoc Huws. Ni cheir gan Daniel Owen yr elfeniad manwl o ddatblygiad cymeriad fel a geir gan George Eliot neu George Meredith, mae'n wir, eto y mae yn gartrefol hollol wrth olrhain teimladau syml Thomas a Barbara