Tudalen:Cofiant Daniel Owen.djvu/129

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

eraill; efallai fod yn y gweithiau hyn fwy o gelfyddyd, ac ymddengys fel yn rhoddi mwy o ffrwyn i'w ddychymyg, eto nid ydynt yn gafael mor ddwfn yng nghalon y darllenwyr, tra y mae yn edrych ar fywyd o'r un safbwynt ag yn y nofelau blaenorol, eto y mae yna elfen fwy cyffredinol (secular) yn rhedeg drwyddynt. Y capel ydoedd y canolbwynt o gylch pa un y troai yr holl hanes yn y Dreflan a Rhys Lewis; ac nid yw yr awdur yn gadael i ni aros yn hir o gyffiniau y capel. Yn Enoc Huws drachefn ceir ddisgrifiad o helyntion manwl. Tref yr Wyddgrug yw cylch ei nofelau cyntaf, tra y mae Enoc Huws yn cymryd i mewn Sir Fflint. Nid oes angen dweud nad oedd gan ein hawdur brofiad personol o fywyd a phrofedigaethau y mwynwyr, ond yr oedd wedi bod yn sylwedydd craff ar helyntion y dosbarth diddorol hwn; ac yr oedd hefyd yn dra chydnabyddus ag amryw bersonau oeddynt wedi treulio blynyddoedd ynglŷn â'r gweithiau plwm. Cymerai diddordeb byw yn yr hyn a ddigwyddai ynglŷn â hwynt; ac yr oedd ganddo yn y modd yma wybodaeth fanwl iawn am y dynion fu â llaw yn agor rhai o'r gweithiau hyn; a gwelir ffrwyth y wybodaeth hon yn ei ddisgrifiad o Captain Trefor, a phrofedigaethau Denman ai