Tudalen:Cofiant Daniel Owen.djvu/130

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

deulu, eto nis gellir edrych ar Enoc Huws fel disgrifiad o fywyd y mwynwyr; nid oedd yr awdur wedi rhoddi ei fryd ar ddarlunio bywyd y dosbarth lluosog hwn, megis y gwna Bret Harte yn ei ddarluniau o fywyd mwynwyr gweithiau aur Califfornia. Yn Gwen Thomas drachefn, ceir darlun o fywyd gwledig Cymru yn fwy cyffredinol, ac ystyria rhai bod y gwaith hwn y stori fwyaf cyflawn a pherffaith o eiddo yr awdur; eto er mor gywir yw llawer o'r disgrifiadau, nis gellir dweud fod y cymeriadau yn sefyll allan yn amlwg o flaen y meddwl, er y creda rhai na chynhyrchodd athrylith Daniel Owen ddim mwy prydferth na chymeriadau Gwen ac Elin yn Gwen Thomas. Nid yw y cymeriadau a bortreadir yn Enoc Huws a Gwen Thomas wedi dod yn adnabyddus i liaws ein gwlad; ystyrir y gweithiau hy n, gyda graddau o gywirdeb, fel math o atodiad i Rhys Lewis.

Priodol yw gofyn,—Beth oedd nodwedd arbennig dychymyg yr awdur? Nis gellir dweud mai mewn cynllunio hanes, fel ag i'r digwyddiadau gyd-daro yn naturiol i'w gilydd, yr oedd cuddiad ei gryfder; yr oedd yn gwybod yn eithaf da nad oedd yn llwyddiannus mewn cynllunio yr hyn a elwir yn plot a phan y ceisia;