Tudalen:Cofiant Daniel Owen.djvu/135

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

megis a ddilynodd y cyfnod Piwritanaidd yn yr eilfed ganrif ar bymtheg; ac i'r ffaith fod ei weithiau yn cynnwys yr elfen o adloniant i feddwl llaweroedd yr ydym yn priodoli graddau o boblogrwydd ei weithiau. Ceir yn ei weithiau hefyd elfen gysurol Y mae yn rhaid cydnabod mai ychydig o lenyddiaeth o'r natur hon oedd yn ein gwlad pan ymddangosodd y Dreflan a Rhys Lewis; darllenir ynddynt am dreialon a siomedigaethau y tlawd a'r profedigaethus, a theimlwn wrth sylwi ar y disgrifiadau hyn fod calon yr awdur yn curo mewn cydymdeimlad â'r rhai a ddisgrifia; yn wir, ymddengys i ni mai dirgelwch ei nerth fel ysgrifenydd ydoedd ei allu i osod ei hunan yn lle eraill. Nid ffrwyth dychymyg oer, yn gweithio ar gof cywir, a welwn yn ei ddisgrifiadau, ond dyn yn meddu ar lawer o natur, a honno yn twymno ei ddychymyg, ac yn bywiogi ei gof i ddarlunio yr hyn a welodd, le, ac a deimlodd ef ei hun. Y mae darllen am ymdrech galed Mari Lewis i fagu ei hamddifaid, marwolaeth Bob gwrol galon, a Seth ddiniwed, ynghyd ag archoll calon Mr. Pugh, a siomedigaethau teulu Denman, wedi apelio at lu oeddynt yn dioddef mewn distawrwydd ar hyd a lled ein gwlad. Y mae