Tudalen:Cofiant Daniel Owen.djvu/136

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

darllen am helyntion blinion eraill wedi bod yn ollyngdod i lawer calon drom, ac wedi bod yn gynhaliad iddynt rhag llethu dan freichiau bywyd.

Yr ydym hefyd yn tybied fod y gweithiau hyn yn cynnwys addysg i'r darllenwyr; y maent wedi cyfrannu gwybodaeth i ddosbarth pwysig o'i gydgenedl Yr ydym yn honni fod ein hawdur wedi tynnu y llen oddi ar fywyd ymneilltuol Cymreig, yn enwedig yr adran y perthynai ef e ei hun iddi. Nid oedd neb o'r blaen wedi ceisio rhoddi darlun poblogaidd o fywyd mewnol Methodistaidd i'r rhai oddi allan. Ceid gwawdluniau yn fynych o'r Seiat, a helyntion mewnol y capelau; a diau fod y cymdeithasau hyn yn rhy fynych wedi gosod eu hunain yn agored i wawdiaeth, ond llwyddodd Daniel Owen i roddi darlun ohonynt fel yr ymddangosent i'r rhai oddi mewn. Dangosodd yr elfen o nerth a swyn oedd yn perthyn i'n sefydliadau, ac i'r digwyddiadau ynglŷn â hwy, megis Seiat y Plant, y Seiat, dewis Blaenoriaid, a dewis Bugail, ac ymweliad Cyfarfod Misol à lle. Yr ydym yn tybied fod i'r disgrifiadau hyn werth hanesyddol, a ganfyddir yn fwy fel y cerdda flynyddoedd heibio; ac nis gall neb sydd yn teimlo diddordeb