Tudalen:Cofiant Daniel Owen.djvu/138

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

efengylaidd, yn arbennig y type ymneilltuol, y maent yn llwyddo i'w ddarlunio yn y fath fodd fel ag i gynnyrch dirmyg yn y darllenwyr tuag at y cyfryw. Er mor iachus yw nofelau Syr Walter Scott mewn llawer ystyr, eto, rhaid cydnabod nad yw y Presbyteriaid ar eu mantais bob amser o gael eu darlunio ganddo. Cymharer ef yn yr ystyr hon, er enghraifft, â Barrie, Ian Maclaren, a Crockette; y mae Charles Dickens drachefn, yr hwn a ddarllenir gymaint gan yr ieuainc, yn dra hoff o ddethol ei gnafiaid o blith y rhai a wnânt honiadau uchel o grefydd. Nis gellir gwadu, ysywaeth, nad yw y dosbarth hwn yn dra hoff o gario eu hystrywiau twyllodrus ymlaen o dan glog o grefydd, eto y mae ieuo crefydd a thwyll yn barhaus yn tueddu i osod argraff anffafriol ar yr ieuanc a'r diwybod, ac yn enwedig pan y mae " "rhai rhagorol " Dickens fel rheol yn perthyn i'r rhai na arddelant grefydd Crist. Y mae yna eraill, megis Mrs. Oliphant, fel pe wedi ymddiofrydu i wneud cymeriadau ymneilltuol a ddisgrifir ganddynt yn wrthrychau gwawd a dirmyg eu darllenwyr. Nid oes amheuaeth nad yw y rhagfarn a deimlir yn erbyn Ymneilltuaeth ac Ymneilltuwyr mewn rhai cylchoedd yn y deyrnas hon i'w