Tudalen:Cofiant Daniel Owen.djvu/142

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

ffug-wybodaeth, ffug-ostyngeiddrwydd, a ffug grefyddolder. Pregetha yn ei holl lyfrau y pwysigrwydd o fod yn onest a ffyddlon i ni ein hunain, i'n gwlad, ein hiaith, a'n hegwyddorion eto llwydda i wneud hyn, heb greu amheuaeth yn meddwl ei ddarllenwyr, nad yw y gwir i'w ganfod yn unman. Yn hyn gwahaniaetha yn fawr oddi wrth rai ysgrifenwyr Seisnig tra enwog^ o fewn y genhedlaeth a aeth heibio. Dangosodd, drwy aml i bortread, fod yna gymeriadau cywir, a thrwyadl dda a chrefyddol, wedi byw yn ein plith. Terfynwn y sylwadau hyn drwy ddyfyniad o'r erthygl ar Daniel wen yn y Gwyddoniadur y cyfeiriwyd ati uchod : - "Yn ei farwolaeth gymharol gynnar, collodd Cymru un o'r rhai mwyaf medrus a chywrain o'r llenorion ac meddai am ddarlunio bywyd ac arferion gwerin ein gwlad. Er nad oedd cylch ei wybodaeth yn eang, na'i ddiwylliant yn uchel, o'i gymharu â llu o'i gyfoedion yng Nghymru, eto gellir yn hyderus gymhwyso ato eiriau Goronwy Owen am ei noddwr, Lewis Morus o Fôn, -

"Tra bo gwiwdeb ar iaith a gwaed y Brython,
Ef a gaiff hoewaf wiw goffeion"



DIWEDD Y COFIANT