Tudalen:Cofiant Daniel Owen.djvu/153

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

iad hwnw, y bydd careg ar ei fedd, a'i enw arni, i gadw ei goffadwriaeth yn y golwg pan y bydd ef ei hun wedi myned o'r golwg. Ond er yr holl awydd hwn sydd mewn dyn am fod yn amlwg, mae yna amserau yn hanes pob un pryd y mae bod yn guddiedig yn felus ac yn ddymunol; adegau y bydd dyn yn hoffi bod ar ei ben ei hun i fwynhau seibiant a hamdden unigrwydd, heb yr un llygad i edrych arno, na neb i aflonyddu ar ddystawrwydd ei feddyliau ei hun. Ac os ydyw hyn yn wir am ddynion cyffredin, beth raid ei fod am ddynion mawr—dynion sydd yn llenwi cylchoedd uchel mewn cymdeithas? Y mae rhyw ychydig o ddynion yn y byd na fodrant symud o un dref i dref arall heb fod hanner y byd yn gwybod hyny bore drannoeth, a phob ysgogiad ac ymddygiad o'r eiddynt yn cael eu gwylio—miloedd o lygaid yn edrych i'w hwynebau, ac yn craffu ar eu holau—yr oll a ddywedant yn gyhoeddus yn cael ei argraffu, a'i ddarllen gan filmiloedd, ei feirniadu yn llym a miniog gan rai, a'i organmawl gan eraill; dynion sydd yn codi bob bore i dderbyn gan eu cydddynion gymaint o barch a chlod, anmharch & chenfigen, ag a fyddai yn ddigon i wallgofi hanner llon'd gwlad o ddynion cyffredin. Pa