Tudalen:Cofiant Daniel Owen.djvu/155

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Tyrus a Sidon-ar derfynau y Cenedloedd—lle nad oedd mor adnabyddus, i geisio bod yn guddiedig am enyd?. Ond yr oedd ei glod wedi rhedeg o'i flaen; ac yno drachefn yr oedd y llesg a'r anafus, y cloff a'r afiach, yn ymdreiglo ar hyd y ffyrdd yn ei ddysgwyl. "Canys nid allai Efe fod yn guddiedig."

Y mae ystyr ymha un yr oedd Efe yn guddiedig; ac fe fuasai llawn ddatguddiad o hono ei hun yn dyrysu amcan ei ddyfodiad i'r byd. "Pes adwaenasent, ni chroeshoeliasent Arglwydd y gogoniant." Yn raddol yr amlygodd ei hun. Nid oedd na "phryd na thegwch" ynddo i'r lliaws. Ychydig a allasent ddyweyd, "Ni a welsom ei ogoniant Ef-gogoniant megys yr uniganedig oddiwrth y Tad, yn llawn gras a gwirionedd." Yr oedd Efe yn gwisgo rhyw gymaint o disguise; ac mewn ystyr, ys dywed Pascal, yr oedd Efe yn fwy cuddiedig pan y darfu iddo ymddangos na chyn iddo ymddangos. Yr oedd yr Israel yn adnabod Duw yn well yn y pellder na phan y daeth i'w hymyl. "Yn y byd yr oedd Efe, a'r byd nid adnabu Ef." Eto nid allai Efe fod yn guddiedig. Yr oedd Efe yn rhy fawr i fod yn guddiedig. Yr oedd Crist mor fawr fel nad allai Efe ei hun guddio ei hun.