Tudalen:Cofiant Daniel Owen.djvu/158

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Fe'i ganwyd yn un o'r dinasoedd tlotaf, ac yn y lle tlotaf yn y ddinas. Ond nid allai ei enedigaeth fod yn guddiedig. Yr oedd ei effeithiau yn fawr. Effeithiodd ar amser. Pan anwyd Crist y daeth amser i'w oed. Bachgen yn yr ysgol oedd amser cyn y geni yn Bethlehem! Yr adeg hono y daeth amser i feddiant o'r etifeddiaeth. "Yn nghyflawnder yr amser." Effeithiodd ei enedigaeth ar yr wybren. Yr oedd hen draddodiad fod y planodau yn effeithio ar ddynion— yn enwedig ar adeg genedigaeth; a mawr a fyddai yr belynt a'r drafferth i wybod o dan ba blaned y byddai y plentyn wedi ei eni, gan y credid fod a fyno dylanwad y blaned yn fawr a dyfodol y plentyn. Hwyrach fod rhywbeth yn hyny, ar a wyddom ni. Ond ni chlywyd ond am un erioed yr oedd ei enedigaeth yn effeithio ar y planedau. Canys gwelsom ei seren Ef yn y dwyrain, a daethom i'w addoli Ef." "Hyd oni safodd hi goruwch y lle y ganwyd y mab bychan." Nid allai ei enedigaeth fod yn guddiedig yn y nefoedd. Geiriau yr angylion yn gystal a'r bugeiliaid y diwrnod hwnw oeddynt, "Awn hyd Bethlehem." "Ac yr oedd gyda'r angel liaws o lu nefol."

Nid allai Efe fod yn guddiedig ar adeg ei