Tudalen:Cofiant Daniel Owen.djvu/159

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

gyflwyniad. Yr oeddym yn son fod dynion yn debyg i'w gilydd; ond y mae y tebygolrwydd yma yn fwy mewn mabandod. Ychydig, os dim, mynegiant sydd yn ngwyneb plentyn ychydig wythnosau oed; ac nid ydyw plentyn yn yr oedran hwnw yn eich argyhoeddi fod ganddo allu i ddim ond i waeddi. Ond yr oodd iachawdwriaeth yn ngwyneb Iesu Grist pan oedd yn chwech wythnos oed; ac yr oedd hen bobl yn cael nerth i farw ac i fyw wrth edrych arno!

"Yr awr hon, Arglwydd, y gollyngi dy was mewn tangnefedd, yn ol dy air, canys fy llygaid a welsant dy iachawdwriaeth, yr hon a barotöaist ger bron wyneb yr holl bobloedd." Yr oedd Anna brophwydes, merch Phanuel, o lwyth Aser, yr hon oedd dros ganmlwydd oed, càn gryfed a heinyf y diwrnod hwnw a phe buasai yn meddwl byw gant arall. "A hi a lefarodd am dano Ef wrth y rhai oll oedd yn dysgwyl ymwared yn Jerusalem." Canys "nid allai Efe fod yn guddiedig."

Ond y mae a fyno yr ymadrodd yma yn ddiammheu â Christ yn ystod ei weinidogaeth gyhoeddus yn y cyfnod hwnw y mae pobpeth fel wedi cydgyfarfod i wneyd yn anmhosibl iddo fod yn guddiedig. Elfen bwysig yn ei