Tudalen:Cofiant Daniel Owen.djvu/162

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

gyhoeddusrwydd yn gynt, ac ennill mwy o wir barch a gwarogaeth gwlad, na meddyg da. Ond gyda'i holl allu a'i fedrusrwydd, mae yn gorfod dyweyd yn fynych, "Anfeddyginiaethol." Ond fe welodd y byd unwaith, a dim ond unwaith, Un na wyddai beth oedd ystyr anfeddyginiaethol. Yr oedd ei allu yn ddiderfyn. A hyn oedd ar y byd ei eisieu; yr oedd yna ddigonedd o feddygon o'r blaen. Nid eisieu medrusrwydd (skill) oedd ar y byd, ond eisieu rhywun a fedrai ddywedyd wrth y clefyd am ymadael, ac i hwnw ufuddhâu. Ni welodd y byd ond Un a allai wneyd hyny, gyda rhyw ychydig oeddynt yn practisio dan ei awdurdod. Yr oedd gallu yr Iesu mor fawr fel yr oedd yn gorfod cadw i ffwrdd o rai lleoedd rhag ei ddangos. Ac mae yn debyg mai dyma ydyw y rheswm na chawn banes yr Arglwydd Iesu mewn claddedigaethau. Ni a gawn ei hanes mewn priodas unwaith. Pe buasem ni yn myned i ddyweyd i ba un y dylasai fyned—i briodas neu i gladdedigaeth—buasem ni, yn ddiau, yn dyweyd mai i'r olaf. Diammheu hefyd, mewn ystod tair blynedd ar ddeg ar hugain, fod rhai o'i berthynasau a'i gyfeillion wedi marw; ond nid oes dim hanes ei fod yn claddu yr un o honynt. Fe fu yn ystafell y