Tudalen:Cofiant Daniel Owen.djvu/170

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

curo wrth ei drws na bydd yn agor i ni ei hystafelloedd, ac yn dadguddio pethau na ddarfu i ni erioed ddychymygu eu bod ynom ni. Nid yw bunan-dwyll wedi ei gyfyngu i blith y bobl a elwir yn "bobl y byd," neu bobl ddigrefydd: na, mae yn dringo dros furiau yr eglwys, ac yn dinystrio cannoedd o broffeswyr crefydd. Ac yn wir, fe ddylai proffeswr crefydd fod ar fwy o wyliadwriaeth rhag twyllo ei hun nag hyd yn nod y dyn dibroffes; oblegid y mae rhywbeth hunan-dwyll y dyn dibroffes ag sydd yn hawdd ei ganfod—yn hawdd dyfod o hyd iddo, tra mae y proffeswr yn aml yn defnyddio yr hyn y mae efe yo ei dybied ydynt ei rinweddau fel sylfaen i adeiladu hunan-dwyll arno. Mae y broffes ei hupan, yr hon sydd dda ynddi ei hun, yn cael ei defnyddio fel achlysur yn fynych i ddyn dwyllo ei hunan. Diau ei fod yn ymwybodol o'r pwysigrwydd sydd ynglŷn a phroffesu enw Crist—y pwysigrwydd y mae y byd, yr eglwys, a'r Bibl yn ei osod arno; ac wedi iddo gymeryd y broffes arno, mae yn teimlo ei fod wedi rhoi cam mawr o flaen y byd digrefydd ei fod wedi ennill tir na ddarfu y dyn dibroffes erioed mo'i ennill; ac os na bydd gwyliadwriaeth mawr ganddo ar ei ysbryd, mae