Tudalen:Cofiant Daniel Owen.djvu/171

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

perygl iddo aros ar y cam y mae wedi ei roi heb fyned yr un cam pellach byth. Mae lle i ofni fod lliaws yn edrych ar aelodaeth eglwysig yn gyffelyb i aelodaeth mewn “ cymdeithas gyfeillgar." Os bydd eu henwau ar y llyfr, a hwythau yn talu eu cyfraniadau yn gyson, y maent yn teimlo yn berffaith dawel.

Mae cymaint o ffurfiau hefyd yn nglŷn â chrefydd fel y mae yn hawdd iawn i ddyn gamgymeryd y rhai hyn am grefydd ei hun. Mae yn rhaid i ni wrth ryw gymaint o ddefodau a ffurfiau gyda chrefydd tra yn y fuchedd hon; ond y mae tueddfryd dyn bob amser at yr hyn sydd yn hawdd, ac i osgoi yr hyn sydd yn anhawdd. Fe all dyn ddyfod i'r capel yn lled gyson a phrydlawn, a chydymffurfio a'r holl ffurfiau angenrheidiol i weddusrwydd, heb lawer o drafferth iddo ei hun; ond y mae ymladd â llygredigaeth ei galon, dyfalbarhau mewn gweddi ddirgel, sylweddoli a gosod ei holl fryd er bethau ysbrydol ac anweledig, yn rhywbeth hollol wahanol, ac yn gofyn holl egni dyn i'w gyflawni yn briodol. Ar yr un pryd, y mae y fath gysylltiad rhwng ffurfiau allanol crefydd a chrefydd ei hun, fel y mae perygl i ddyn gamgymeryd y naill am y llall, a theimlo yn