Tudalen:Cofiant Daniel Owen.djvu/174

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

beth erioed o'r blaen. A dyna lle y bu yn myned yn ol ac ymlaen am yspaid maith, a'r cysgod yn ei dynwared. Wrth ddal i edrych ar y cysgod yn yr afon, hi a welai rywun arall yn edrych dros ei hysgwydd, ac yr oedd yn sicr ei bod wedi gweled y wyneb hwnw yn flaenorol; ac erbyn iddi droi ei phen, pwy a welai ond Adda yn edrych dros ei hysgwydd! Esboniodd Adda iddi yn union mai darlun perffaith o honi ei hun yr oedd hi yn ei weled yn yr afon. Yr un modd y gellir dyweyd am y Bibl. Wrth edrych i hwn yr ydym yn gweled darlun; ond nid ar unwaith y deuwn i'w adnabod fel ein darlun ni ein hunain; ac wrth edrych ac edrych, odid fawr na ddaw Adda yr Ail i edrych dros ein hysgwydd, ac eglura efe i ni mai darlun o honom ein hunain yr ydym yn ei weled, ac efe a'n dwg ni allan o bob dyryswch.

Ar hyn o bryd, fel y mae'r gwaethaf, mae y nifer lliosocaf yn ein gwlad yn byw heb fath yn y byd o broffes o grefydd—heb gymeryd arnynt eu bod yn grefyddol. Ac y mae gan bob dosbarth reswm digonol yn eu meddwl eu hunain dros fyw felly. Mae un dosbarth o bobl ddigrefydd yn ymfoddloni yn yr ystyriaeth eu bod yn perthyn i'r dosbarth llïosocaf; fod y rhan fwyaf o'u