Tudalen:Cofiant Daniel Owen.djvu/176

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

wedi darfod, a'r hyn oedd yn fforddio cysur yn y byd hwn, sef lliosogrwydd y cymdeithion, yn blaenllymu y dyoddefiadau, ac yn gwneyd yr ing yn fwy annyoddefol. Byddai yn well gan yr annuwiol gael "llechu yn y fagddu fawr” ar ei ben ei hun, mewn rhyw ogof anghysbell, ar derfynau colledigaeth, na bod yn nghanol milfil o'r rhai y bu yn cydbechu â hwynt yn ngwlad yr efengyl.

Mae dosbarth arall ag sydd yn ymgysuro yn y meddwl fod yna lawer mewn gwaeth cyflwr na hwy. Maent yn ymwybodol o rywfath o hunan-gyfiawnder. Ni ddarfu iddynt erioed feddwi, nac erioed wneyd yr arferiad o dyngu a rhegu; maent yn talu eu ffordd, ac yn cyflawni llawer o garedigrwydd. Ond y maent yn gwybod am eraill sydd yn euog o bob bai; ac wrth gymharu eu hunain a'r cyfryw, maent yn tybied y safent chance lled dda y dydd mawr a ddaw. Ac y mae rhywbeth yn hyn eto, ar yr olwg gyntaf, ag sydd yn ymddangos yn ddefnydd cysur gwirioneddol. Yn wir, gyda golwg ar bethau y bywyd presennol, y mae dynion cyn hyn wedi gallu anghofio eu trueni eu hunain wrth edrych ar drueni mwy yr oedd eraill yn ei afael. Mae hanes am ryw foneddwr, a fuasai unwaith mewn