Tudalen:Cofiant Daniel Owen.djvu/178

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

â thrugaredd Duw yn ei Fab. Mae twyll y dosbarth hwn yn dyfod i'r golwg cyn iddynt adael y byd. Fel y bydd dyn yn cael ei wasgu yn nês, nês, i'r byd tragywyddol, mae pobl eraill yn syrthio ar dde ac aswy o'i feddwl, ac o'r diwedd nid yw yn gweled neb ond efe ei hun o flaen y Duw anfeidrol sanctaidd. Yr un fath â dyn ar longddrylliad: tra bydd y llong heb ei gwneyd yn ddarnau, mae y boneddwr yn gallu meddwl am gysur y ferch ieuanc yn y fan yma, neu yr hen wr yn y fan draw; ond wedi i'r llestr gael ei gwneyd yn ysgyrion, ac iddo yntau gael ei ollwng i drugaredd y tònau, nid oes neb yr adeg hono yn cael lle yn ei feddwl, na neb yn y fath berygl ag ef ei hun. O flaen gorsedd Duw, os yn annuwiol, efe ei hun o bawb fydd y truenusaf a mwyaf anobeithiol yn ngolwg dyn.

Y dosbarth llïosocaf o hunan-dwyllwyr, ymhlith gwrandäwyr yr efengyl, mae yn debyg, ydyw y rhai hyny sydd yn byw bob amser mewn ymrafael â hwy eu hunain. Maent yn gwrandaw bob amser, ac y mae eu cydwybod yn cyd-dystiolaethu a'r gwirionedd. Maent yn tynu plan o'u bywyd bob wythnos, ac y mae y bwriad o fyw yn grefyddol bob amser yn y cynllun; ond yn y cynllun y mae yn aros—nid ydyw