Tudalen:Cofiant Daniel Owen.djvu/180

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

graslonrwydd a pharodrwydd anfeidrol y Brenin mawr i dderbyn y pechadur gwaethaf ar yr unfed awr ar ddeg yn rheswm ganddo dros barhâu mewn gwrthryfel yn ei erbyn hyd y gall.

Mae y drychfeddwl yn arswydus, fod yn bosibl, nid yn unig i wrandäwyr yr efengyl, ond hyd yn nod i'r rhai sydd yn dal swyddau uchel ynglŷn â theyrnas Crist, dwyllo eu hunain. Yr oedd y digyffelyb Paul yn dychrynu wrth feddwl am y posiblrwydd iddo ef, wedi iddo bregethu i eraill, fod ei hun yn anghymeradwy. Cyn can mlynedd i heddyw bydd pawb o honom

"Yn gwel'd gan bwy mae sylwedd,
A phwy sydd heb y gwir."