Tudalen:Cofiant Daniel Owen.djvu/181

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

III

CAIN.

"Mwy yw fy anwiredd nag y gellir ei faddeu."

—GENESIS iv. 13.

DRUAN oedd Cain! a raid i ni ei osod yn y "chamber of horrors?" Os rhaid, bydd hyny yn anewyllysgar genym; oblegid y mae yn rhaid i bob un a deimlodd ei enaid yn suddo i lawr i lynclyn anobaith ei arddel fel ei frawd, ar yr hwn y cafodd y diafol fan gwan. Er mai efe ydoedd y cyntaf a anwyd i'r byd, yr oedd "yr iachawdwriaeth fawr yn Nghrist" yn y byd o'i flaen; ond, ysywaeth, yr oedd yr anghenfil anobaith yn y byd hefyd, yn gwylio am gyfleusdra i'w rwymo yn ei gadwyni haiarn! Gadewch i ni edrych ychydig i'w hanes.

Mae yr hanes a gawn yn llyfr Genesis am Cain ac Abel yn hynod o fyr; nid oes ond y prif linellau yn eu hanes yn cael eu croniclo. Ac fe fyddai cofio hyn wrth ddarllen llyfr Genesis yn gyffredinol—nad ydyw yr