Tudalen:Cofiant Daniel Owen.djvu/182

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ysgrifenydd yn cymeryd arno roddi hanes manwl a difwlch—yn fantais fawr i'w ddeall, ac i esbonio yr anhawsderau a gyfarfyddir yn y llyfr. Yn fynych, fe fydd yr ysgrifenydd yn neidio dros ugeiniau o flynyddoedd rhwng dwy adnod; a phe cedwid y ffaith hon mewn golwg, symudid yr anghysonderau ymddangosiadol a geir yn hanes Cain, megys ei waith yn myned i dir Nod i geisio gwraig, &c. Dywed dysgedigion wrthym mai ystyr yr enw Cain ydyw eiddo neu gynnysgaeth; ac mai ystyr yr enw Abel ydyw gwagedd neu ddiddymdra. Mae gwahanol ystyr y ddau enw yn adrodd wrthym, yn ddiammheu, hanes profiad ein rhieni cyntaf. Yn oesoedd boreuaf y byd, fe roddid enwau ar blant mewn ffordd wahanol i'r hyn a wneir yn ein dyddiau ni. Yn awr, fe elwir y bachgen yn Ioan neu Samuel, am mai dyna oedd enw ei daid, neu o herwydd mai dyna yw enw ei ewythr, yr hwn sydd yn meddu ychydig o dda y byd hwn. Ond yn oesoedd cyntaf y byd, rhoddid enw ar y plentyn ag a fyddai yn dynodi ei gymeriad, neu ynte yr amgylchiadau o dan ba rai y byddai wedi ei eni. Pan anwyd Cain, meddyliodd Adda ac Efa, yn ddïau, eu bod wedi cael cyflawniad o'r addewid am Had y wraig;