Tudalen:Cofiant Daniel Owen.djvu/186

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

a'i dad; mi a anadlaf yn ei ffroenau anadl uffern nes yr â yn ddiafol byw!"

Mae cryn dywyllwch yn nghylch y moddion a ddefnyddir gan y diafol i ddylanwadu ar ddynion; ond nid oes dim yn fwy eglur yn holl ddysgeidiaeth y Bibl na'r ffaith ei fod yn gallu dylanwadu yn effeithiol iawn. A phrin y gallwn feddwl am neb tebycach iddo arfer ei holl ddylanwad a'i ystrywiau arno na Chain. Yr oedd ei gais i gwympo ei dad a'i fam newydd gael ei goroni â llwyddiant mawr; yr oedd yr hyn yr oedd Duw wedi ei fynegu iddo am "Had y wraig" yn fresh yn ei feddwl; &c y mae yn eithaf rhesymol i ni dybied ei fod wedi dechre arfer ei ddichellion a'i ddylanwad ar Cain hyd yn nod pan yr oedd yn blentyn ar lin ei fam. Cawsai Efa brofiad chwerw o gydymffurfio a themtasiynau y sarph. Yn lle y dedwyddwch pur a digwmwl a fwynhäai hi o'r blaen, ymddaenodd nos fel y fagddu dros ei meddwl. Ond yr oedd yna un seren yn dysgleirio yn nghanol y fagddu i gyd; yr addewid am Had y wraig. A phan anwyd Cain, dacw ei hwyneb yn dechre sirioli, a glöewder gobaith yn chware yn ei llygaid ! "Eiddo !" "cynnysgaeth!" ebe hi; "dyma fi wedi cael cyflawniad o'r addewid!