Tudalen:Cofiant Daniel Owen.djvu/188

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

oedd yna ddim cymdeithas ysbryd rhwng y ddau. "Dos di un ffordd, af finnau ffordd arall," meddai Cain. Ac y mae hyd yn nod yr orchwyliaeth a ddewisodd y ddau yn rhoi mantais ragorol i ni weled y gwahaniaeth oedd yn nghymeriad y ddau. "Pob gyffelyb ymgais." Mae yn gofyn dyn a chalon fawr ganddo i wneyd bugail da; calon yn llawn tynerwch; dyn a fedr ganu ar y dyffrynoedd, ac ymddifyru wrth weled yr wyn yn prancio ar y bryniau; un y bydd brefiadau y defaid yn disgyn fel cerddoriaeth ar ei glust; un â'i galon yn gwaedu o gydymdeimlad pan wêl yr oen bach mewn caledi, ac na phetrusa ei gofleidio yn ei fynwes yr un fath a mam gyda'i maban; un a fedr edrych yn myw llygad y ddafad ddireswm, a darllen ei dymuniad! Pa un ai Cain ai Abel ydyw y dyn at y gwaith yna? "Abel oedd fugail defaid." Ond y mae yn bosibl i ddyn a chalon galed, front, grebychlyd, wneyd ffarmwr da. Nid ydym yn awgrymu fod amaethwyr fel dosbarth yn llai tyner a hynaws na rhyw ddosbarth arall o ddynion, ond nad ydyw tynerwch calon yn anhebgorol at y gwaith. Y ddaear. oer, galed, garegog! nid oes eisieu llawer o dynerwch calon i aredig ei hwyneb hi!