Tudalen:Cofiant Daniel Owen.djvu/194

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

"Nis gwn i;" a thrahausder yn dilyn hyny, "Ai ceidwad fy mrawd ydwyf fi ?" Ond dyna y gair nesaf yn ei daraw yn fud. "Beth a wnaethost? Llef gwaed dy frawd sydd yn gwaeddi arnaf fi o'r ddaear," meddai Duw. "Yr awr hon melldigedig wyt o'r ddaear, yr hon a agorodd ei safn i dderbyn gwaed dy frawd o'th law di. Pan lafuriech y ddaear, ni chwanega hi roddi ei ffrwyth i ti; gwibiad a chrwydriad fyddi ar y ddaear. Yna y dywedodd Cain wrth yr Arglwydd, Mwy yw fy anwiredd nag y gellir ei faddeu."

Mae gwahanol farnau mewn perthynas i wir ystyr geiriau Cain mewn atebiad i'r ddedfryd hon o eiddo Duw arno. Rhy brin y gellir edrych arnynt fel iaith gwir edifeirwch. Edrycha rhai arnynt fel dadganiad o ysbryd grwgnachlyd; eraill a edrychant arnynt fel mynegiad o anobaith dwfn; ac yn unol â'r golygiad hwn a gyfieithant y geiriau "Mwy yw fy nghosbedigaeth nag y gallaf ei oddef," ac fel yna y mae y geiriau yn y Bibl Saesoneg. Ond hwyrach fod yr ymadrodd yn cynnwys y ddau feddwl, oblegid y mae ysbryd grwgnachlyd ac ysbryd anobethiol yn canlyn eu gilydd yn led gyffredin.