Tudalen:Cofiant Daniel Owen.djvu/75

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

gan nad oedd y swm a dderbyniwyd ond prin ddigon i dalu am y defnyddiau tuag at wneuthur y cerflun.

Y mae y cerflun, yr hwn sydd mewn pres, yn barod, a gosodir ef i fynnu ymhen ychydig fisoedd mewn lle amlwg yn y dref. Cawn fod pob dosbarth o fewn ein gwlad, " gwrêng a bonheddig," wedi cyfrannu tuag at y gof-golofn. Y mae y Duke of Westminster wedi rhoddi yn rhad y carreg i fod yn sylfaen i'r cerflun. Nis gallwn fynd heibio heb gyfeirio at lafur dyfal yr ysgrifenydd, Mr. Llywelyn Eaton, ynglŷn â'r gwaith hwn.

Er pan yr ysgrifennwyd yr uchod, y mae ysgrifenydd y gofadail, "yntau wedi marw," a hynny heb weled gosod i fynnu y cerflun yr oedd wedi gosod gymaint o'i fryd arno. Yr oedd Mr. Llywelyn Eaton, fel Mr. Daniel Owen, yn un o blant yr Wyddgrug, ac wedi yfed i fesur o ysbryd llenyddol y cyfnod y magwyd ef ynddo.