Tudalen:Cofiant Daniel Owen.djvu/80

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

dani hi, a does mor blwyddyn er pan ddaru i chi brynu'r tŷ 'r ydech chi'n byw ynddo, ac fe roesoch dri chant o bunnau am hwnnw. Dyma enw David Davies o'r ------- yn cael deunaw swllt yr wythnos, a chanddo saith o blant, mae ei enw fo i lawr am hanner coron; gwir fod Dafydd yn cymryd glasied weithiau, a dyna y rheswm pam ei fod yn rhoi hwyrach; ond y chwi, nad ydych yn gwario dimau ar eich melys-chwantau, yr ydych yn rhy dlawd i roddi dim, ac yr ydech chi'n gwario mil o bunnau yn y flwyddyn i chwanegu at eich ystâd ! Yr ydech chi'n grefyddwr hefyd, a 'dydi Dafydd Dafis ddim yn y seiat, hwyrach fod gan hynny rywbeth i wneud â'r cwestiwn!" "Yr ydech chi'n myned yn rhy bell yrŵan, Mr. Owen, cofiwch ch'i beth 'rydech chi'n ei ddeud." "Rhy bell!" atebai Daniel. "Rhy bell a ddeutsoch ch'i, 'rydech chi'n pydru yn eich pres---,"ar hyn, allan a'i gyfaill cynted ag y gallai,—" Dyna," meddai Daniel, "ddaw hwnna ddim yma i ragrithio eto. Mi rois hi iddo yn go hallt hefyd, ond pan aeth i gwyno nad oedd pobl yn rhoi dim at achosion crefydd, gan faint oeddent yn ei gwario ar ddiod, mi gollais i fy amynedd ag e. Ei sort o yn siarad am roi at achosion da !" " Mi es innau