Tudalen:Cofiant Daniel Owen.djvu/89

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

disgrifiad ! Nid oedd ond y gwir, ond teimlech mai y gwir yn ei hanfod ydoedd. Yr oedd yn oleuni eiriaswyn, bob brawddeg a gair. Byth nid ymbalfalai Daniel Owen am ymadrodd na syniad, pan na chawsai ddim amser, yn ôl a welid, i fyfyrio neu gasglu barn. A glywodd rhywun ef erioed mewn penbleth sut i ddweud, neu mewn amheuaeth beth i’w ddweud i osod allan ei feddwl ? Nid chwiliwr oedd, ond canfyddwr. Mewn gair, yr oedd, os bu neb erioed, yn ŵr o athrylith fyw. A oes cysylltiad rhwng y gair a thrwy, trwodd? Os nad oes y mae rhwng y peth. Dyn ar unwaith yn gweled drwodd at y gwir, heb ond ychydig o help profiad na dysg, dyna ddyn o athrylith, pa beth bynnag y w y testun y mae a fynno âg ef. Y mae athrylith sydd yn tanio ar ôl llafur a dysg. Rhaid iddi lawer o gynnud cyn y deffry y fflam. Ond gŵr oedd Daniel Owen a welai ar un ergyd, ac ar un cyffyrddiad â phwnc, drwy ryw allu mewnol o hydreiddiwch, megis pe na bai ansicrwydd ac aneglurder yn bod iddo. Nid ydym yn honni ei fod bob amser, yn ei sylw, yn gweled y peth yr oedd mwyaf o eisiau ei weled, ac eto yr ydym yn dweud hyn yn fwy fel addefiad o amherffeithrwydd natur dyn yn gyffredinol,