Tudalen:Cofiant Daniel Owen.djvu/93

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

Ail deimlai deimladau lu. Deallai ddynion oeddynt, fel y dywedwn yn gyffredin, yn hollol wahanol i'w gilydd. Ie, deallai hwynt yn well nag yr oedd y rhan fwyaf ohonynt yn eu deall eu hunain.

Bydded i chwi osod o'i flaen rai o syniadau uchaf pregethwyr gorau, neu y beirdd uchaf, yn y fan yr oedd ar ei aden, gyda'r gwroniaid eu hunain, ond pwy a deimlai ddiddordeb mwy yn Edward Sibian a holl oddities y dref? Bydded i chwi adrodd profedigaethau neu lawenydd rhywun, yr oedd efe ynddynt, ac yn eu canol ar y funud, fel y mae greddf mam yn treiddio i, ac yn taenu dros, ond yn myned tu hwnt i brofiad ei phlentyn. Achosion eglwysig, achosion trefol, achosion teuluaidd, teimladau yr hen a'r ieuainc, y dwys a'r digrif, nid oedd dim, o'r bron yn y cylch y troai efe ynddo, nad oedd yn cael atsain a chydymdeimlad yn ei galon ef, ac yn derbyn bywyd newydd yn ei eiriau. Yr oedd yn fwy nag un o'i lyfrau, ac na hwy oll gyda'u gilydd. Dywed yn ei Hunangofiant fod y siop weithio yn fath o goleg iddo. Yr oedd felly i raddau nodedig. Yr oedd y siop honno yn un o'r mannau mwyaf deffroadol i'r meddwl yn yr holl dref; ie, tybed nad allem ddweud yn yr holl