Tudalen:Cofiant Daniel Owen.djvu/94

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

wlad. Anghyfiawnder cymdeithasol, athrylith farddonol, teilyngdod awdwyr, cerddoriaeth—byth a hefyd torrai y gweithdy allan yn un oriel o felodaidd gwirioneddol—gwleidyddiaeth, ac hefyd diwinyddiaeth—byddai ymwneud llawn o ynni â hwynt oll. Swyn neillduol y cwbl oedd y caech yno siarad oedd yn boeth o'r galon, heb ddim celu anawsterau, heb ddim arbed yr hyn a fernid yn an-reswm, na dim o driniaeth y menig kid. Ymgyrch am fywyd ydoedd. Yr oedd ei brif nodwedd, ymdafliad at wirionedd, yn cael y bwyd a garai yno am flynyddoedd. Ond nid athrylith, nac eangder teimlad, a roddant gyfrif am agosrwydd cyson at y gwir. Pa fodd y bu i Daniel Owen, drwy oes o agos i drigain mlynedd, gadw y cariad hwn at wirionedd, a'r gallu hwn i'w weled ? Nid oes ond un ffordd i'w gadw, bydded gallu dyn yr hyn a fyddo. Rhaid bod gogwydd moesol y galon tuag at y gwir. Rhaid bod disgyblaeth sydd yn dewis y gwir yn cael ei pharhau. Rhaid bod enaid sydd yn dal i feddu gwelediad ohono yn un sydd yn dal i wrthod ei werthu am weniaith, am arian, am ddyrchafiad mewn cymdeithas. Rhaid ei fod yn un nad yw balchder yn sychu ei gydymdeimlad, na hunan yn ei bellhau oddi wrth